Llechyfedach School

	
		
	
	
	

Mae’r ysgol yn Ysgol Gymraeg Draddodiadol ac yn ysgol gynradd sy’n darparu ar gyfer disgyblion o 3-11 oed.

Rydym yn falch iawn o’n disgyblion yn Ysgol Llechyfedach. Bob blwyddyn daw llawer o ymwelwyr i’r ysgol ac yn aml maent yn dweud wrthym iddynt sylwi ar ymddygiad da ein disgyblion, a pha mor gwrtais ydynt. Mae’r ysgol yn falch o’i henw da, am iddi fwrw gofal dros bob plentyn unigol, o ran lles y disgyblion a’r ddarpariaeth addysgol.

Mae’r cyfleusterau a’r cyfleoedd dysgu estynedig a gynigir yn Ysgol Llechyfedach yn ardderchog ac mae’r nifer o weithgareddau a gynigir i’r disgyblion yn sicrhau eu bod yn dod yn ddysgwyr gydol oes effeithiol.

Anogwn ac ymfalchiwn yn ein cydweithio effeithiol rhwng y cartref a’r ysgol. Heb gynnwys rhieni yn y gwaith hwn, mae ein tasg yn llawer mwy anodd ac yn llai pleserus. Hyderaf y byddwch yn cymryd diddordeb helaeth yn yr hyn y mae eich plentyn yn ei wneud yn yr ysgol ac y byddwch yn ei h/annog i wneud pob ymdrech i ddysgu ac atgoffa pwysigrwydd hyn yn ddiweddarach mewn bywyd.

Mrs Neris Thomas-Samuel

Pennaeth

ESTYN 2022

Adroddiad – cliciwch yma


Cwricwlwm i Gymru

Cliciwch yma ar gyfer crynodeb o’r Cwricwlwm i Gymru Ffederasiwn Ysgolion Llechyfedach a’r Tymbl.

Cliciwch yma ar gyfer mwy o wybodaeth am y Cwricwlwm i Gymru.

Y Cwricwlwm Newydd – gwyliwch y fideo yma.


Gweler wybodaeth am bresenoldeb

Cliciwch yma ar gyfer Gwybodaeth i Rieni CSG